Christine Mills

Mae Christine Mills yn un o bum artist sydd wedi ei chomisiynu sy’n ymateb i gelf gyfoes ein casgliadau cenedlaethol a chasgliadau Storiel fel rhan o brosiect Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru.  Mae Christine Mills yn ymateb i’r ‘Welsh Not’ o gasgliad Storiel.  Mae’r ffilm fer isod yn egluro mwy. Gellir gweld gwaith Christine yn y Cabinet yn Storiel tan Gorffennaf 26, 2024.