JTPARRY (ap Idwal) 1853 -1913
10 July - 02 October 2021Golygfeydd o Ddyffryn Ogwen, Nant Ffrancon, Cwm Idwal ac ardaloedd cyfagos gan yr artist lleol ac anhysbys yma o’r 19eg Ganrif. Dathlu Tirwedd Llechi - Cais am Statws Treftadaeth y Byd
Golygfeydd o Ddyffryn Ogwen, Nant Ffrancon, Cwm Idwal ac ardaloedd cyfagos gan yr artist lleol ac anhysbys yma o’r 19eg Ganrif. Dathlu Tirwedd Llechi - Cais am Statws Treftadaeth y Byd
Deuddeg artist, deuddeg portread. Celf wreiddiol o’r gyfres deledu ‘Cymry ar Gynfas’ ble’r oedd pob rhifyn yn dilyn un artist wrth iddynt ddarlunio un eicon Cymreig mewn celfyddyd o’u dewis.
Dathlu lliw, natur a bywyd. Cyfansoddiadau trawiadol o waith colâg haniaethol gan Glyn Baines sy’n deillio o'r gweithiau sydd o'u gwmpas yn ei stiwdio. Yn yr awyr agored gyda phapur a phensel, caiff Helen Baines ei ysbrydoli gan ardaloedd hardd cyfagos megis Cwmystradllyn, Oerddwr a Nantmor i enwi ond y rhai.
Mae prosiect CHERISH yn dîm o archeolegwyr, daearyddwyr a daearegwyr sy’n astudio effeithiau newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth arfordirol a morol yng Nghymru ac Iwerddon. Mae’r arddangosfa hon yn STORIEL yn dangos y gwaith a fu ar safleoedd arfordirol yng Nghymru o Sir Benfro i Ynys Môn.
Rydym yn falch iawn o fod yn cychwyn ein harddangosfeydd y gwanwyn gyda gwaith newydd gan Darren Hughes. Mae Darren yn ymdrin â’r dirwedd gyda gonestrwydd a realaeth gyfoes. Mae’r arddangosfa hon o ddarluniau siarcol a chyfrwng cymysg, paentiadau olew a phrintiau ysgythru sychbwynt yn archwilio bröydd cynefin yr artist – gyda golygfeydd o Fethesda, Ynys Môn a Môr Iwerddon.
Mae gan Storiel amrywiaeth o ddoliau yn y casgliad, o ddoliau Fictoraidd i Sindy o’r 1960au, ond y rhai pwysicaf yw’r doliau gwisg Gymreig. Mae doliau yn gyfarwydd fel y teganau mwyaf cyffredin a phoblogaidd ac roedd yn gyffredin i ddoliau gael eu gwneud â llaw gan grefftwyr neu rieni. Yng Nghymru gwerthwyd doliau mewn ffeiriau teithiol a marchnadoedd, ac yn ddiweddarach siopau teganau. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd daeth doliau’n fwy hygyrch. Yn ogystal â’r amrywiol doliau, gwelir hefyd rhai printiau a chardiau post yn dangos enghreifftiau o wisg Gymreig.
Cyflwynir pymtheg eitem o gasgliad celf STORIEL i ddangos sut mae gwahanol artistiaid wedi ymateb i’w pwnc. Mae'r arddangosfa yn cynnwys gwaith gan Frank Brangwyn, John Piper, Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Susan Adams, Dan Llywelyn Hall ac eraill.
Mae’r Celf Agored yn arddangosfa flynyddol sy’n agored i artistiaid a myfyrwyr 16 oed a hŷn sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Eleni gwahoddwyd ceisiadau ar thema ‘Awyr Agored’.