Edrych ar Gelf…
21 January - 25 March 2023Gwaith celf gan 18 artist yn cynrychioli peth o’r amrywiol fath o baentiadau yng nghasgliad celf Prifysgol Bangor. O dirluniau ffigurol a phortreadau i fywyd llonydd a mynegiant haniaethol, gwelwch pa waith sydd yn eich ysbrydoli chi. Gwahoddir arlunwyr ifanc hefyd i ymateb. Caiff eu gwaith celf hwy yna ei arddangos gyda’r lluniau gwreiddiol.