Cefyn Burgess
30 September - 23 December 2023Darluniau cyfoes mewn inc, print a phwyth o Fryniau Casia. Casgliad newydd o waith yn dilyn ymweliadau astudio pellach i’r ardal gan gyfeirio at lythyrau gwreiddiol cenhadon dros y blynyddoedd.
Darluniau cyfoes mewn inc, print a phwyth o Fryniau Casia. Casgliad newydd o waith yn dilyn ymweliadau astudio pellach i’r ardal gan gyfeirio at lythyrau gwreiddiol cenhadon dros y blynyddoedd.
Cyfres o fapiau lliwgar cyfoes yn cofnodi pob ardal o Gymru; yn nodi trefydd, prif lonydd a chadwyni mynyddoedd.
Ugeiniau o gychod bychain porslen yn cyfleu llif y llanw yn Nhraeth Mawr, Porthmadog, cyn i’r Cob yn 1811 ddraenio’r tir. Mae’r gosodiad yma yn cynnig golygfa newydd, gan ddistyllu hanfod ‘Llif’ i ofod yr oriel yn Storiel.
Daw penllanw sgwrs barhaus dros nifer o flynyddoedd â dau artist sy’n ymwneud â lliw at ei gilydd am y tro cyntaf. Mae'r gwaith newydd hwn yn dangos gwahanol safbwyntiau a dulliau’r artistiaid. Mae gwaith Hedley yn haniaeth organig, sy'n ymateb i siâp, patrymau a graen y pren y mae’n paentio arno. Mae rhythm, ailadrodd a natur ddigymell yn nodweddiadol o Smith, gan gyfuno cyflwr rhesymegol ac emosiynol y gwneud.
Rhai o bosteri a gwaith celf chwedlonol a wnaed gan Stuart a Lois Neesham o argraffdy Enfys sy’n rhoi cipolwg ar y sîn gerddorol ym Mangor yn y 1970au.
Arddangosfa ar thema agored yn dangos gwaith celf amryfal gyfrwng gan gynnwys paentio, argraffu, ffotograffiaeth, gwaith tecstil a ceramig. Cyfle i bleidleisio am eich hoff waith celf.
Gwaith newydd yn cylchdroi o gwmpas thema ganolog o undod, yn chwilio am hanfod yr hyn sy'n ein cysylltu. Delweddau manwl, emosiynol yn defnyddio paent olew ar gynfas llyfn sy’n archwilio’r llinell rhwng peintio haniaethol ac estheteg gor-realydd mân fanylion a goleuo dramatig; yn myfyrio ar bethau megis y golau symudol ar ddŵr llifeiriol, neu ennyd dawel.
Wrth gyfosod y cyfarwydd â’r anghyffredin, mae Pritchard yn creu gwyriadau swrrealaidd a chythryblus oddi wrth y byd rydym ni’n ei adnabod. Gydag effeithiau rhithiol a seicolegol siâp, lliw a phatrwm yn ei gyfareddu, mae’n archwilio'r trosiadau y mae paentio yn eu creu.
Detholiad o ddodrefn, yn bennaf o Ynysgain Uchaf ger Cricieth, ag eitemau cysylltiol o gasgliad Storiel. Cymynroddwyd eitemau Ynysgain gan Dorothea Pughe-Jones, yr olaf yn ei llinach ers y 1630au i fyw yno. Gwelir cymysgfa o ddodrefn derw traddodiadol sy’n nodweddiadol o nifer o ffermdai'r ardal a rhai darnau o ddylanwad arddull Ewropeaidd. Cyfle i weld eitemau nad ydynt yn arferol ar arddangos.