Kim Atkinson a Noëlle Griffiths
29 June - 21 September 2024Arddangosfa o ffolio, paentiadau a printiau sy’n archwilio Coedwigoedd Glaw Celtaidd Gogledd Cymru a Choedwig yr Is-Antarctig, De Chile.
Arddangosfa o ffolio, paentiadau a printiau sy’n archwilio Coedwigoedd Glaw Celtaidd Gogledd Cymru a Choedwig yr Is-Antarctig, De Chile.
"Yr arddangosfa fechan hon o baentiadau bywyd llonydd yw fy ymateb i rai o’r darnau serameg yng nghasgliad Storiel a Phrifysgol Bangor. Mae'r gwrthrychau tŷ pob dydd hyn a wnaed gan mlynedd neu ddau gan mlynedd yn ôl yn sôn am fywyd – y bobl a greodd batrymau a dyluniadau bywiog y jygiau, mygiau, platiau a phowlenni hyn, a’r bobl oedd yn berchen arnynt ac yn eu defnyddio."
Fel rhagarweiniad i arddangos printiau gan Syr Frank Brangwyn RA (29 Mehefin – 28 Medi 2024), mae Storiel yn arddangos enghreifftiau o ysgythru, lithograffeg, engrafiad pren, torri coed, a thorlun leino gan bum ymarferydd cyfoes: Paul Croft, Darren Hughes, y diweddar Karel Lek, Colin See-Paynton ac Ian Phillips.
Mae’r Celf Agored yn arddangosfa flynyddol sy’n agored i artistiaid a myfyrwyr 16 oed a hŷn sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Eleni gwahoddwyd ceisiadau ar thema Agored gydag amod i’r gweithiau fod yn ddim mwy na maint A1 (594 x 841mm). Gallai’r gwaith celf gael ei gyflwyno mewn unrhyw gyfrwng: paentiadau, darluniau, ffotograffiaeth, ffilm, tecstil, pren, clai ac ar ffurf 2D neu 3D.
Ymateb i’r dirwedd arfordirol lle daw godre’r Carneddau i gwrdd â glannau’r Fenai. Caiff yr artist ei gyfareddu yn gyson gan symudiad a rhythm ac yn y casgliad newydd hwn gwelir ef yn paentio mewn dull llyfn ag uniongyrchol. Gwelir yma astudiaethau bychan mewn dyfrlliw a gweithiau mwy mewn acrylig gan gyfeirio hefyd i waith blaenorol mewn paent olew.
Arddangosfa gymysg o waith celf fotanegol, tirluniau, portreadau a bywyd gwyllt. Sefydlwyd Cymdeithas Celf Gain Gogledd Cymru yn 1990, gan ddechrau yn bennaf fel grŵp o arlunwyr yn arbenigo mewn celf fotanegol. Mae’r Gymdeithas wedi datblygu gydag aelodau yn awr yn cynnwys nifer o arlunwyr proffesiynol sydd wedi eu gwobrwyo ac sy’n arbenigo mewn amrywiaeth o bynciau a chyfryngau celf gain. Mae’r arlunwyr a wahoddir i ymuno â’r gymdeithas yn arddangos rhagoriaeth dechnegol a safbwynt rhyfeddol.
Darganfyddwch ryfeddodau amgylchedd morol gogledd Cymru.
Cwsg, y gweithgarwch hanfodol yna y mae ar bawb ei angen. Mae gan Storiel gasgliad hynod ddifyr o wrthrychau sy'n ymwneud â chwsg, nad ydynt i'w gweld efo'i gilydd fel arfer. Bydd yma ddathliad clyd, lliwgar o gwiltiau clytwaith, carthenni traddodiadol, dillad nos, crud, poteli dŵr poeth a hyd yn oed fodel o wely bocs traddodiadol, a wnaed yn y 19eg ganrif.
Yn dathlu cyswllt diwylliannol mae arddangosfa o waith gan artistiaid o Fangor, Soest a Chwaer Ddinasoedd eraill yn nodi hanner canmlwyddiant gefeillio Dinas Bangor gyda Soest, yr Almaen. Mae gefeillio tref yn galluogi perthynas arbennig rhwng dwy gymuned, gan hybu dealltwriaeth o wahanol ddiwylliannau.