
Llif(T) yn Cyflwyno: John Bisset
14 June 2025Mae Llif(T) yn falch o gyflwyno un arall yn ei gyfres barhaus o sesiynau cerddoriaeth arloesol ac arbrofol, a fydd yn cynnwys y perfformiwr hynod dalentog, John Bisset.
Mae Llif(T) yn falch o gyflwyno un arall yn ei gyfres barhaus o sesiynau cerddoriaeth arloesol ac arbrofol, a fydd yn cynnwys y perfformiwr hynod dalentog, John Bisset.
Mae ‘Tu Ôl i’r Llenni’ yn brosiect trwy’r rhwydwaith CELF (Casgliad Celf Gyfoes Cymru) a Celf ar y Cyd. Gwefan yw Celf ar y Cyd sy’n rhoi cyfle i bawb bori, dysgu a chael ysbrydoliaeth gan filoedd o weithiau celf gyfoes o gasgliad Amgueddfa Cymru. Bwriad y prosiect oedd peilota sut gall ysgolion cael mynediad gwell i’n casgliadau cenedlaethol – a sut gall orielau sy’n rhan o rhwydwaith CELF helpu hwyluso hynny. Un model o weithio sydd yma. Mae Storiel a Plas Glyn y Weddw wedi gweithio gyda dwy ysgol gynradd; Ysgol Garnedd (Bangor) ac Ysgol Cymerau (Pwllheli), yr artist Luned Rhys Parri ac Amgueddfa Cymru i gyflawni’r gwaith.
Ymunwch â ni yn STORIEL am y cyfle i gwrdd â Sian, i archwilio ei deunyddiau – o ludw i reis – ac i gael y cyfle i ddal a thrin rhai o’i darnau ceramig.
Mae'r Joshua Gardener yn wreiddiol o California ond bellach yn byw ym Mangor ac wedi dysgu’r Gymraeg. Mae ei brosiect cerddorol newydd Pioden yn gyfundrefn o Punc a Gwerin a mae wedi adeiladu dilyniant ffyddlon yn y misoedd diwethaf . Dowch lawr i Cafi Storiel am pnawn o gerddoriaeth acoustic egniol.
Gweithdy i’r ifanc a ifanc ei ysbryd dros y hanner tymor hefo’r arlunydd a darlunydd cyffroes Mr Kobo wrth iddo creu darnau o gelf cyffroes syn ymateb i casgliadau celf a creiriau amgueddfa Storiel ar disgiau llechi.
Drwy ymateb i sesiwn Storiel Tyrchu Sain yr wythnos canlynol, bydd y rapiwr ar bît-bocsiwr adnabyddus Mr Phormula am fynd trwy pob twll a chornel o catalog cerddorol Sain i greu cyfansoddion newydd Hip Hop . Gan gyfuno doniau lleisiol, samples ac ailaddasiadau i greu pnawn byth cofiadwy o gerddoriaeth.
I dathlu rhyddhad albwm newydd y cynhyrchydd o Gaerdydd Don Leisure mae Storiel, Amgueddfa Gwynedd yn hynod falch o gyflwyno diwrnod o sgyrsiau fydd yn dathlu record syn defnyddio recordiau o’r label hanesyddol. Recordiau Sain.
Dewch i ddarganfod trysorfa o swynion, defodau, ac ymarferion hudolus i ddefnyddio o ddydd i ddydd. Wedi ei hysbrydoli gan hanes hudoliaeth werinol Cymru, ond wedi cael ei sefydlu yn y byd modern. Yn ystod y gweithdy yma dysgwch sut i greu swynion amddiffynnol, sut a pham i adeiladu allor ar gyfer bob math o ddefnyddiau, a hefyd sut i edrych i mewn i'r dyfodol.
Mae'r platiau hyn, a elwir hefyd yn hambyrddau tensiwn, yn cynnig cyflwyniad pleserus i fyd gwehyddu basgedi helyg. Byddwch yn dysgu'r sgiliau o greu dolen, gwehyddu syml a pharu, yn ogystal â chwlwm i orffen handlenni'r hambwrdd. Bydd Karla hefyd yn siarad am dyfu helyg a pharatoi helyg ar gyfer gwehyddu. Bydd planhigion helyg bach hefyd ar gael i’w prynu ar y diwrnod fel y gallwch dyfu eich helyg eich hun gartref.