Enw Helen Walker
Swydd Swyddog Dysgu Storiel
Prif ddyletswyddau eich rôl yn Storiel
Darparu adnoddau addysgol i gefnogi’r casgliad a’r arddangosfeydd. Cynnal digwyddiadau sydd ag elfen addysgol iddynt neu sy’n ehangu cynulleidfa Storiel. Cynnig gwasanaeth i ysgolion sydd eisiau gwneud defnydd o’r casgliadau neu benthyg eitemau
Ers pryd ydych chi wedi gweithio yn Storiel? Medi 2019
Beth yw’r peth gorau am eich rôl yn Storiel?
Cael y cyfle i ddod a’r casgliad a’r byd celfyddydol i sylw pobl fyddai fel arfer ddim yn mynychu amgueddfa neu oriel.
Beth yw eich hoff eitem yng nghasgliad Storiel a pam?
Y llechi cerfiedig.
Mae’r llechi yma’n dangos nad oes rhaid i chi fod yn ‘artist’ swyddogol neu’n berson ‘pwysig’ i adael eich hoel ar y byd a chreu rhywbeth arwyddocaol. ‘Rwy’n byw uwchben chwarel Dorothea, a chefais addysg yn Ysgol Dyffryn Nantlle, felly mae unrhyw beth sydd yn ymwneud a’r chwareli llechi yn fy niddori, a byddaf yn hoffi tynnu lluniau yn y chwarel a chynnal prosiectau sydd yn ymwneud a’r diwydiant a’r llechi cerfiedig.
Beth yw eich hoff ffordd o ymlacio y tu allan i’r gwaith?
Garddio a canu mewn band.