Yn 1918 roedd y byd ar ei liniau, ar ôl 4 blynedd o ryfel, daeth straen ffliw H1N1 fel cysgod dros y byd. Yn cael ei adnabod fel y ffliw Sbaeneg, oherwydd bod newyddiadurwyr Sbaen yn wahanol i ran fwyaf o’r byd yn cael adrodd ar y clefyd a’r marwolaethau dyma y pandemig mwyaf difrifol ers y Pla Du.
11 Medi 1918 roedd David Lloyd George ar ben y byd, Prif Weinidog Prydain, AS dros Bwrdeistrefi Caernarfon, yr dod a’r rhyfel mwyaf gwaedlyd a welodd y byd erioed i ben ac yn teithio i’w ddinas enedigol, Manceinion i dderbyn Rhyddid y Ddinas. Roedd merched o’r ffactrïoedd arfau a milwyr oedd adref ar ‘furlong’ yn llenwi’r strydoedd o orsaf Piccadilly hyd at sgwâr Albert ynghanol y ddinas i groesawy eu harwr.
Ond yn hwyrach yr noswaith yno, datblygodd David Lloyd George ddolur gwddw a gwres uchel. Treilliodd y 10 diwrnod nesaf mewn gwely arbenigol yn Neuadd y Ddinas Manceinion yn rhy sâl i symud a gyda peiriant i helpu iddo anadlu. Roedd papurau newydd y cyfnod gan gynnwys y Manchester Guardian, a rhai Cymreig fel Yr Udgorn a Y Dydd yn ceisio tan ddatgan difrifoldeb y sefyllfa rhag ofn i’r Almaen gymryd mantais. Yn ddiweddarach, adroddodd staff oedd yn agos iawn ato bu’n ”touch and go”.
Yn 55 oed bu David Lloyd George oroesi’r afiechyd, ond nid oedd miloedd ar filoedd mor lwcus. Mewn byd cyn meddyginiaeth gwrthfiotigau a’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol collwyd dros 250,000 o gleifion i’r clefyd ym Mhrydain.
I ddysgu mwy dilynwch Facebook, Twitter neu Instagram Amgueddfa Lloyd George.