Enw : Megan Cynan Corcoran
Swydd : Cydlynydd Amgueddfeydd a Gwirfoddoli
Prif ddyletswyddau eich rôl yn Storiel : Rhedeg Storiel ac Amgueddfa Lloyd George ddydd i dydd gan ganolbwyntio ar Iechyd a Diogelwch, Cyfathrebu a Marchnata ynghyd a’r elfennau busnes.
Ers pryd ydych chi wedi gweithio yn Storiel? Mi gychwynnais i yn Amgueddfa Lloyd George yn 2015, cyn gweithio fel Swyddog Treftadaeth dros gyfnod mamolaeth yn Storiel, yno gefais secondiad i weithio gyda Pabis Coch Castell Caernarfon yn Hydref 2016 ac ers Rhagfyr 2016 dwi wedi bod yn y rôl yma.
Beth yw’r peth gorau am eich rôl yn Storiel? – Neu – Pe gallech chi gael un archpŵer (superpower), beth fyddai hwnnw?Yr amrywiaeth o waith, y cyfleon cyffroes yn y byd Amgueddfeydd a’r Celfyddydau a’r tîm gwych! Arch bŵer….. medru ‘gwglo’ cof/ brêns pobol eraill ee ‘bydda hwn a hon yn gwybod – nai gwglo..!’
Beth yw eich hoff eitem yng nghasgliad Storiel a pam? www… anodd dewis, ond mae arwydd ‘Four Alls’ yn un o fy hoff rai gan fod y neges yn un sydd yn pontio canrifoedd ac dal yr un mor berthnasol heddiw, baner dirwestol Beddgelert gan ei bod yn reit unigryw ac adrodd stori yn ei delweddau, a’r gist waddol gan mai cyndadau i mi oedd ei pherchnogion cyntaf.
Beth yw eich hoff ffordd o ymlacio y tu allan i’r gwaith? Crosio, darllen, cerdded, ymchwilio i hanes teulu a’r ardal lle dwi’n byw ….a chwerthin ( lot fawr!)