Enw: Manon Dafydd
Swydd: Cymhorthydd Safle Achlysurol
Prif ddyletswyddau eich rôl yn storiel: Agor a chau’r adeilad a chroesawu gwesteion a rhoi cymorth lle mae modd.
Ers pryd ydych chi wedi gweithio yn Storiel? 8 mis
Beth yw’r peth gorau am eich rôl yn Storiel? Cael gweithio mewn adeilad hyfryd sy’n llawn hanes a chelf a chael gwneud hynny fel rhan o dîm gwych o bobl!
Be gallech chi gael un archpwer beth fyddai hwnnw? Gallu hedfan!
Beth yw eich hoff ffordd o ymlacio y tu allan i’r gwaith? Cerdded, darllen, gwylio ffilm neu gyfres dda a potsian o gwmpas y tŷ wrth wrando ar gerddoriaeth