Enw : Helen Gwerfyl
Swydd : Swyddog Casgliadau Amgueddfaol Prifysgol Bangor a Storiel
Prif ddyletswyddau eich rôl yn Storiel : Rwyf yn edrych ar ôl casgliadau Storiel a chasgliadau’r Brifysgol.
Y fi yw’r prif gyswllt o ran unrhyw beth yn ymwneud â’r casgliadau – o dderbyn eitemau newydd i mewn, ateb ymholiadau i ddelio efo benthyciadau.
Byddaf yn derbynodi a chatalogio’r casgliadau gan wneud yn siŵr bod y gwaith dogfennu i gyd yn ei le. Rhan bwysig yw gofalu am y casgliadau, asesu cyflwr, sicrhau amgylchedd cywir, glanhau a thrin y creiriau yn ofalus.
Mae galluogi mynediad i’r casgliad a’r straeon maent yn ei gyfleu yn hanfodol. Byddaf yn gwneud arddangosfeydd, rhoi’r casgliadau ar lein, datblygu adnoddau ar lein ac yn cynnal gweithgareddau e.e. teithiau tywys casgliad celf y Brifysgol, diwrnodau agored Amgueddfa Brambell. Byddaf hefyd yn cyfrannu at waith swyddogion eraill yn Storiel o ran rhoi mynediad i a gwybodaeth am greiriau.
Ers pryd ydych chi wedi gweithio yn Storiel?
Rwyf wedi bod yn gweithio yn Storiel ers 2014.
Beth yw’r peth gorau am eich rôl yn Storiel?
Un o’r pethau gorau am fy rôl yw’r amrywiaeth o fewn y dyletswyddau ac yn enwedig fy mod yn gallu gweithio ar gasgliadau hollol wahanol. Rwyf hefyd yn mwynhau ymchwilio a dysgu mwy am y grair sydd yn fy ngalluogi i ddeall mwy am ei bwrpas a’i gyd-destun.
Beth yw eich hoff eitem yng nghasgliad Storiel a pam?
Dwi’n ei chael yn anodd iawn i ddewis un crair, oherwydd mae sawl un o’r casgliad yn sefyll allan. Un o fy hoff greiriau yw’r llechi cerfiedig. Rwyf yn hoffi’r addurniadau a’r patrymau sydd ar y llechi yma a’r ffaith eu bod wedi cael ei gwneud gan chwarelwyr sydd yn dangos sgiliau crefftwaith a chelf lleol.
Beth yw eich hoff ffordd o ymlacio y tu allan i’r gwaith?
Rwyf yn hoffi cerdded a byddaf yn treulio oriau yn mynd a fy nau gi am dro. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn cadw’n heini a byddaf yn rhedeg ac yn gwneud sawl math o ddosbarthiadau ffitrwydd.