Enw Alexandra Gillgrass
Swydd Cynorthwydd safle achlysurol
Prif ddyletswyddau eich rôl yn Storiel
Agor a chau’r adeilad, gweithio yn yr dderbynfa a’r siop, sicrhau cynhaliaeth yr adeilad, cefnogi aeolodau staff
Ers pryd ydych chi wedi gweithio yn Storiel?
3ydd Mehefin 2019
Beth yw’r peth gorau am eich rôl yn Storiel? / Pe gallech chi gael un archpŵer (superpower), beth fyddai hwnnw?
Rwyf wrth fy modd yn cael cyfle i gael fy amgylchynu gan hanes. Byddwn i wrth fy modd yn gallu teithio yn ol mewn amser a gweld sut beth oedd bywyd yn ol yn yr oes victorianaidd.
Beth yw eich hoff eitem yng nghasgliad Storiel a pam?
Fy hoff eitem yw’r ffrog ddu sy’n dyddio o’r 1870au. Dyma fy ffefryn oherwydd fy mod i’n hoff iawn o ffasiwn ac mae’r ffaith y gallai fod wedi bod yn ffrog briodas yn ei gwneud hi’n llawer mwy diddorol.
Beth yw eich hoff ffordd o ymlacio y tu allan i’r gwaith?
Rwy’n mwynhau ymarfer yoga, cerdded fy nghi, Pip, darllen, crefftio a thynnu lluniau.