Eleni, thema agored oedd i arddangosfa flynyddol Celf Agored yn STORIEL. Mae amrywiaeth diddorol o weithiau celf mewn ffrâm wedi llenwi’r waliau ynghyd ac amrywiaeth o waith crochenwaith. Dyfarnwyd dau baentiad mewn olew gan Jonathan Retallick yn fuddugol am Wobr y Detholwyr. Rhoddwyd hefyd canmoliaeth i waith celf gan wyth artist arall.
Fel daw’r arddangosfa i ben gallwn gyhoeddi mae enillydd Dewis y Bobl 2022, gyda gwobr yn rhodd gan Gyfeillion STORIEL, yw Donna Jones am ei gwaith celf mewn acrylig, ‘Cors Ddyga’. Mae Donna yn artist lleol yn byw ym Mangor sydd yn mwynhau paentio ers yn blentyn. Mae’n canolbwyntio ar baentio tirwedd leol yn bennaf gan nodi’r awyrgylch arbennig a welir wrth gerdded llwybrau’r mynydd. Fel artist, mae dehongli’r awyrgylch yma yn ysbrydoliaeth i’w gwaith celf.
Diolchwn i bawb a fu’n pleidleisio am eu ffefryn.
Daw’r arddangosfa i ben yn STORIEL ddydd Sadwrn 25 Mehefin.
Llun: Ennillydd gwobr Dewis y Bobl, Donna Jones.