Roedd cwpwrdd gwydr yng nghornel ‘Ystafell Ffrynt’ llawer o gartrefi yn y Caribî. Roedd yn arddangos trysorau’r teulu. Roedd anrhegion priodas, llestri gorau a llestri gwydr, cofroddion, a ffotograffau o’r teulu wedi’u fframio yn rhan arferol o’r casgliad. Cadwodd mewnfudwyr cynnar y Windrush y traddodiad, tan i’w hepil a aned ym Mhrydain drawsnewid cartref eu rhieni yn fannau heb unrhyw eitemau diangen. Erbyn hyn, yr unig bethau mewn cartrefi disgynyddion y Caribî yw waliau gwyn, darnau o gelf a ddewiswyd yn ofalus a gliniadur. Mae ‘Ystafell Ffrynt y Caribî’ wedi ei chydnabod fel nodwedd hanesyddol o’r gorffennol, a roddwyd ar gof a chadw yn ddiweddar ar ffurf celf gan artistiaid Prydeinig ‘Du’. Mae fy fersiwn i o’r Cwpwrdd Arddangos yn deyrnged i’r traddodiad hwnnw, fel aelod o ‘Genhedlaeth y Windrush’.
Roedd ‘Y Caribî’ yn le o ddiwydiant dwys, dan reolaeth Ewropeaidd a Phrydain am dros dair canrif. Yn bennaf, gan ddefnyddio llafur gorfodol caethweision o Affrica, cynhyrchwyd siwgr yno – cynnyrch a oedd yn arwain at gyfoeth. Fe wnaeth Cymru gymryd rhan a chael budd o gam-fanteisio o’r fath, er sgerbwd yn y cwpwrdd oedd y wybodaeth hon tan droad y ganrif.
Ar ôl brwydr faith, cafodd caethweision eu rhyddhau o’u caethiwed bum mlynedd ar ôl dyfodiad Deddf Diddymu Caethwasiaeth 1833. Fe wnaeth deunydd Prydeinig ag effaith trefedigaethol, ar y cyd ag amryfal arferion diwylliannol y gweithlu aml-genedl, ffurfio traddodiadau cyfoethog hyd heddiw. Mae crefydd, addysg, diwylliant a hamdden yn gorgyffwrdd mewn ffyrdd rhyfeddol.
Ymysg gweithgarwch amrywiol Audrey West mae gwaith celf, ysgrifennu creadigol ac ieithoedd, ochr yn ochr â hyfforddiant cydraddoldeb, seicotherapi a actifiaeth gymunedol. Daeth ei MA mewn Cof Diwylliannol yn 2001 â’r diddordebau hyn at ei gilydd. Hefyd, fe gododd hyn ei hymwybyddiaeth o etifeddiaeth ôl-drawmatig caethwasiaeth Trawsatlantig ac mae’n ymdrin â hyn yn ei gwaith drwy naratif personol a thorfol.
Symudodd Audrey o Lundain i’r Bermo yn 2017, ac mae topograffi’r dref fach hon yn debyg i’w man geni yn Jamaica. Yn fuan ar ôl cyrraedd, darganfu gysylltiad teuluol hanesyddol annisgwyl â Jamaica. Mae Audrey yn parhau i weithio gydag orielau a lleoliadau diwylliannol, ysgolion, sefydliadau cymunedol ac unigolion ledled Gogledd Cymru a thu hwnt, gan fynd i’r afael â diwylliannau, amrywiaeth a chydraddoldeb.
Mae Audrey wedi cymryd rhan mewn amryw o arddangosfeydd unigol a grŵp. Dyma enghreifftiau:
- 1986 artistiaid benywaidd du ar y teledu: Some of Us Are Brave, All of Us are Strong.
- 2010 Arddangosfa unigol yn Oriel y Marylebone Crypt yn Llundain
- 2010 Arddangosfa unigol yn Oriel Stoke Newington, Llundain.
- 2019 yn MOMA Machynlleth gyda ‘Culture Colony Intervention’ Pete Telfer.
- 2019 Oriel Sant Ioan, Abermaw.
- 2022 Arddangosfa ar y cyd yn Oriel Storiel gyda Gareth Griffiths.
- 2023 gydag Utopia’s Bach Artist Collaboratory.