Ffilm Arddangosfa AGORED STORIEL 2020
Gosodwyd thema o ‘Awyr Agored’ i arddangosfa 2020 a chafwyd ymateb ardderchog gydag amrywiaeth o weithiau celf mewn gwahanol gyfrwng yn cael eu cyflwyno. Detholwyd o’r rhain, 94 o eitemau ym mis Mawrth cyn y cyfnod clo cyntaf.
Gan gymeradwyo pawb a ymgeisiodd, dyfarnwyd gwaith celf gan Mark Albrow, ‘Sunset over the West Shore’, print digidol, yn fuddugol am wobr Dewis y Detholwr 2020.
MARK ALBROW:
Byddai Mark Albrow yn ymweld ag oriel gelf Tegfryn ym Mhorthaethwy ar ei ffordd adref o’r ysgol, lle bu i waith artistiaid megis Donald McIntyre, Roy Ostle a Kyffin Williams gael effaith fawr arno. Aeth ymlaen i astudio celf gan gyflawni gradd BA Anrh Celf Gain yng ngholeg Polytechnig Sheffield. Mae Mark wedi dilyn ei greadigrwydd drwy gelf weledol a sain gydol ei fywyd ac roedd yn un o sylfaenwyr grŵp clywedol arbrofol o’r enw HULA. Dychwelodd i ogledd Cymru, i Ddyffryn Conwy yn 2014, lle gall ef ai wraig ymroddi mwy o’u hamser i’w gwaith celf unigol. Prif destunau Mark yw tirlun a phortreadau, pynciau traddodiadol sydd yn anfeidrol heriol. Meddai, “Fel arfer byddaf yn defnyddio paent olew i baentio, ond hefyd yn gweithio gydag offer digidol i drin fy ffotograffau gan ddefnyddio nifer o driniaethau i greu delweddau’r un mor fynegiannol. Rwyf o hyd yn ceisio am ffyrdd gwell o fynegi fy synhwyrau ac felly ddim wedi aros gydag un arddull, o hyd yn arbrofi, sydd yn rhyfeddol o gyffrous, yn waith caled ac yn llwyth o hwyl.”
Yn ogystal, dyfarnwyd Canmoliaeth Uchel i ffotograffiaeth Pete Whitehead a Chanmoliaeth i weithiau celf gan bum artist arall sef, Brenda Chaffer, Rene Evans, Judith Samuel, Joan West a Dorothy M Williams.
Bu’n bosib i Storiel groesawu ymwelwyr i weld yr arddangosfa yn yr hydref a chafwyd pleidleisio am Ddewis y Bobl. Gyda’r mwyafrif o bleidleisiau rhoddir gwobr Dewis y Bobl, rhodd gan Gyfeillion Storiel, i waith celf 3D gan Jenet Peers ‘They go out once a year and discuss mental health issues’, a wnaed o glai llosg a papier mâché.
JENET PEERS:
Artist lleol sy’n byw ar Ynys Môn yw Jenet Peers. Ers ymddeol yn 2006 mae wedi dilyn ei dymuniad hir oes i baentio gan arddangos yn rheolaidd gyda Grŵp Celf Môn a Chymdeithas Celf Gain Gogledd Cymru. Meddai Jenet “ Cychwynnais weithio mewn 3D yn 2016 ac mae’r ffigurau a oeddwn yn ei baentio bellach yn cael eu creu mewn papier mâché a chlai llosg. Mae’r gwaith ‘They go out once a year…’ yn seiliedig ar baentiad a wnes ar ôl gweld y grŵp hwn o ddynion pan oeddwn ar fws ar wyliau yng Ngroeg. Cefais fy nharo gan y diffyg cyfathrebu ymysg y grŵp. Teimlais ei fod yn adlewyrchu yn dda sut nad yw dynion yn siarad am eu teimladau.”