GOHIRWYD – manylion pellach yn fuan

 

Nos Wener 27ain Mawrth 2020 7yh

Archeolegydd, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, darlithydd, awdur, ymgyrchydd dros dreftadaeth Cymru.

 

Noson yn dathlu Frances Lynch Llewellyn sydd wedi cyfoethogi a bywiogi’r Amgueddfa gyda’i gwybodaeth am o leiaf 40 mlynedd. Mi fydd yn sgwrsio am ei bywyd a gwaith a’i chanfodiadau  archeolegol mwyaf diddorol a diddorol ( gyda llawer ohonynt yn Storiel!) ynghyd â thrafod nifer o ffeithiau hanesyddol eraill difyr.

 

Yn dilyn bydd cinio bwffe, gyda gwin, yn nhraddodiad partion Nadolig gynt y Cyfeillion.

Ticedi £25.00 i’w archebu ymlaen llaw yn Storiel, galwch 01248353368 neu archebwch ar y we ( linc yma)

 

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf hawlfraint Rhodri Jones

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones

07 September - 02 November 2024

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus⁠ Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.  Maen nhw'n ffotograffau teimladwy, llawer o'i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia.  Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy'n archwilio colled a galar.  Mae'r llyfr yn archwiliad o alar sy'n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy'n troi galar yn sgwrs.