Heia! Gwenno dwi, a dyma fy mhost blog gyntaf yma ar flog Storiel!
Dwi’n un o Wynedd, ac yn fy 3ydd blwyddyn o gwrs Hanes ag Archeoleg ym mhrifysgol Bangor – fel y dychmygwch, mae gen i ddiddordeb mawr yn hanes canoloesol. Rwyf wedi bod ar leoliad gwaith yn Storiel yn ddiweddar, gan fod gen i ddiddordeb mewn hanes lleol, a’r gymuned leol. Byddwch chi’n gweld cryn dipyn ohonof dros y misoedd nesaf, gan fyddai’n cyfrannu yn fisol at flog Storiel – rhywbeth dwi’n edrych ymlaen ato!
Yn fy amser fy hun, dwi wrth fy modd yn darllen ac ysgrifennu, felly mae cyfrannu at flog Storiel yn gyfle gwych i mi! Dwi’n hoff iawn o gelf, ac rwy’n mwynhau creu fy narluniau fy hun – mae’n angerdd mawr gen i. Felly, un o fy hoff bethau am y prosiect bach hwn yw gweld gwaith celf a chynhyrchion llawer o’r artistiaid lleol rydyn ni’n helpu i’w hyrwyddo.
Pob mis, fyddai’n cyflwyno Cyflenwr y Mis gyda phost blog amdanynt; ond nid yn unig y gwaith celf neu’r cynnyrch, ond ychydig am y bobl sy’n gweithio tu ôl y llenni gyda chyfweliadau! Mae hyn yn ffordd wych o hyrwyddo busnesau o fy nghymuned leol i. Rydym wedi gofyn cyfres o gwestiynau i rai o’n cyflenwyr ni; gwyliwch allan am y post Cyflenwr y Mis cyntaf, sydd ar y gweill.
Welai chi’n fuan!
Gwenno