Bwriedir creu arddangosfa ar y thema ’protest’ yn y cas cymunedol yn Storiel o 30 Mawrth i 26 Medi 2020. Mae bwlch yng nghasgliad Storiel ar y thema protest, felly rydym yn gwneud apêl i gael creiriau ar y thema yma. Os oes gennych chi greiriau tybed a ydych yn barod i unai eu rhoi neu eu menthyg i Storiel.

 

Rydym yn chwilio am greiriau sydd wedi cael eu creu neu eu defnyddio gan bobl yn protestio ar gyfer achosion i gael clywed eu llais yn ystod y 20fed ganrif i fyny i’r presennol sydd yn berthnasol i ardal Gwynedd. Gall hyn fod ar swffragêts, streiciau, yr iaith Gymraeg, protestiadau newid hinsawdd. Gall y creiriau gynnwys eitemau traddodiadol fel baneri, posteri, bathodynnau neu yn greiriau pob dydd sydd yn dweud hanes personol protest.

 

Os oes gennych chi greiriau cysylltwch â Swyddog Casgliadau Amgueddfaol Prifysgol Bangor a Storiel, Helen Gwerfyl [email protected], 01286 679823 erbyn 6 Mawrth 2020.

 

Mae diwrnod taro i mewn wedi cael ei drefnu ar yr 27 Chwefror 2020, 11.00-3.00 yn Storiel ble gellir aelodau o’r cyhoedd ddod a chreiriau yn ymwneud a phrotest i mewn.