Sefydliadau a chymunedau Bangor yn dod ynghyd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
22ain o Chwefror – 3ydd o Fawrth 2019
Eleni bydd rhai o sefydliadau mwyaf Bangor a’r cylch yn dod at eu gilydd i drefnu wythnos o ddigwyddiadau a gweithgareddau dros Hanner Tymor Chwefror er mwyn dathlu nawddsant Cymru, Dewi Sant.
Wedi ei drefnu ar y cyd gan sefydliadau Pontio, Menter Iaith Bangor, Castell Penrhyn, Storiel, Capel Berea Newydd, Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin a Chadeirlan Bangor bydd Bangor yn Dathlu Dydd Gŵyl Dewi 2019 yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau mewn lleoliadau gwahanol ar draws y ddinas.
Yn eu plith bydd gweithgareddau at bob dant yn cynnwys digwyddiadau cerddorol, celf, garddio, gweithgareddau i blant a theuluoedd, cwis i ddysgwyr, darlithoedd hanes a gwyddoniaeth, darlledu penodau o gyfres boblogaidd Deian a Loli, sioeau a pherfformiadau theatrig. Hefyd bydd cystadleuaeth addurno ffenestri busnesau a siopau yn gyfle gwych i fusnesau Stryd Fawr a Bangor Uchaf ddangos eu cefnogaeth a chyfrannu at greu awyrgylch gwerth chweil. Ar ddydd Sadwrn 2il o Fawrth wedyn cynhelir gorymdaith odidog drwy Stryd Fawr y ddinas gyda Band Pres Porthaethwy yn arwain.
Yn ôl John Wyn Jones, Maer Bangor a Chadeirydd Menter Iaith Bangor, mae’r bartneriaeth newydd yn un fydd yn codi proffil yr ŵyl yn y ddinas trwy hyrwyddo’n diwylliant a’n hunaniaith unigryw Cymreig ymhlith thrigolion ac ymwelwyr:
“Dros y blynyddoedd mae dathliadau Dydd Gŵyl Dewi wedi mynd o nerth i nerth yn yr ardal, ac eleni mae’n wych fod cynifer o sefydliadau Bangor yn cydweithio mor agos i drefnu a hyrwyddo cyfres o weithgareddau arbennig i ddathlu Dewi Sant, ein Cymreictod, yr iaith Gymraeg a diwylliant ein cenedl.
“Bydd y gweithgareddau yn gyfle gwych i drigolion yr ardal ac ymwelwyr ddod at eu gilydd i ddathlu fel un cymuned fawr – ac efallai annog mwy o bobl i ymfalchïo yn eu Cymreictod, gymdeithasu yn y Gymraeg neu ddysgu’r iaith.”