Cyfle i fynd yn ôl mewn amser a darganfod sut daethpwyd â phlanhigion gardd i Gymru o bedwar ban byd, a’r niwed sy’n gallu cael ei achosi i fyd natur hyd heddiw wrth iddyn nhw ddianc o erddi. Cewch brofi a dysgu drwy arddangosfa aml-gyfrwng ddifyr sy’n cynnwys arteffactau hanesyddol a gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan. Darganfyddwch sut mae’r artist lleol, Manon Awst, wedi defnyddio cerflunwaith i ddehongli’r ffiniau mandyllog rhwng gerddi a’n cynefinoedd ehangach, gwylltach ni. Bydd yr arddangosfa’n dangos y camau hawdd y gall unrhyw arddwr eu cymryd i helpu i warchod ac adfer byd natur yng Ngogledd Cymru drwy atal planhigion gardd rhag dianc. Mae’r arddangosfa’n cynnwys cerflun parhaol gan Manon Awst yng Ngwaith Powdwr, Gwarchodfa Natur gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Mae’r arddangosfa hon yn rhan o brosiect Dihangwyr Gerddi Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Mae’r prosiect yn cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae’n cael ei gyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.