Roedd 2024 yn nodi 140 mlynedd ers sefydlu’r Brifysgol – agorwyd Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor ym mis Hydref 1884. Gyda’r digwyddiad hwn gwireddwyd gobeithion a dyheadau llawer, ers dyddiau Owain Glyndŵr, i Brifysgol yng ngogledd Cymru. Daeth 58 o fyfyrwyr i’r sefydliad pan gafodd ei sefydlu. Heddiw mae tua 11,000 o fyfyrwyr yma, o bob cwr o’r byd. Mae pob un yn elwa o’r traddodiad Cymreig cryf sy’n adnabod gwerth addysg i bawb.
Prifysgol Bangor yw ceidwad nifer o gasgliadau amgueddfa pwysig a ffurfiwyd ers sefydlu’r Brifysgol. Mae’r casgliadau yn amrywiol eu natur ac yn cynnwys celf gain. Yn ôl erthygl a gyhoeddwyd gan y ‘Times Higher Education’ yn 2005, mae casgliad celf Prifysgol Bangor ymhlith y deg casgliad celf gorau yn y Brifysgol yn y DU, ochr yn ochr â’r Sefydliad Barber, Birmingham a Chasgliad Whitworth, Manceinion.
Mae’r casgliad celf yn cynnwys tua 650 o weithiau, sy’n dyddio o’r 17eg i’r 21ain ganrif. Mae’r casgliad wedi datblygu’n bennaf trwy gymynroddion, rhoddion a phryniannau, a gafwyd oherwydd bod yr artist neu’r pwnc yn ymwneud â gogledd Cymru. Nid yw’r casgliad wedi’i gyfyngu i gelf Gymreig, ac mae hefyd yn cynnwys paentiadau gan artistiaid Prydeinig ac Ewropeaidd.
Mae’r casgliad yn creu ased artistig a diwylliannol pwysig i’r Brifysgol ac i ogledd Cymru gyfan. Mae rhai o’r gweithiau celf i’w gweld mewn gwahanol fannau cyhoeddus yn adeiladau’r Brifysgol, lle maent yn cael eu mwynhau gan staff a myfyrwyr.
Mae’r arddangosfa hon yn dathlu pen-blwydd y Brifysgol a’i chelf drwy arddangos uchafbwyntiau o’r casgliad.