Mae casgliad celf Prifysgol Bangor yn creu ased artistig a diwylliannol pwysig i’r Brifysgol ac i ogledd Cymru gyfan. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu pen-blwydd y Brifysgol a’i chelf drwy arddangos uchafbwyntiau o’r casgliad.