Mae’r Celf Agored yn arddangosfa flynyddol sy’n agored i artistiaid a myfyrwyr 16 oed a hŷn sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Yn yr arddangosfa eleni mae 75 o weithiau gan 57 artist. Y Beirniad Gwadd oedd Luned Rhys Parri a fu’n dethol ynghyd â Jeremy Yates.