Ymunwch â’r gwehydd basged lleol, Karla Pearce, i blethu platyn Catalan hardd o helyg.
Mae’r platiau hyn, a elwir hefyd yn hambyrddau tensiwn, yn cynnig cyflwyniad pleserus i fyd gwehyddu basgedi helyg. Byddwch yn dysgu’r sgiliau o greu dolen, gwehyddu syml a pharu, yn ogystal â chwlwm i orffen handlenni’r hambwrdd. Bydd Karla hefyd yn siarad am dyfu helyg a pharatoi helyg ar gyfer gwehyddu. Bydd planhigion helyg bach hefyd ar gael i’w prynu ar y diwrnod fel y gallwch dyfu eich helyg eich hun gartref.
Pris yn cynnwys te, coffi a bisgedi
Tocyn: £60
Archebwch YMA