Gweithdy Adolygu Cerddoriaeth hefo Gwilym Dwyfor
Gweithdy dan arweiniad Gwilym Dwyfor, cyn-olygydd Y Selar (cylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg adnabyddus) ar grefftio adolygiadau cerddorol cymhellol gynnig persbectif unigryw i’w cyfranogwyr i gelfyddyd newyddiauraeth gerddorol gya ffocws penodol ar gerddoriaeth Gymraeg
Archebwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/1064275910899?aff=oddtdtcreator
Bydd y gweithdy hwn yn addysgu’r cyfranogwyr y sgiliau hanfodol sydd eu hangen i ysgrifennu adolygiadau cerddoriaeth diddorol a chraff. Bydd yn ymdrin â hanfodion strwythur, tôn ac arddull newyddiaduraeth gerddoriaeth, gyda phwyslais penodol ar y sî gerddoriaeth Gymraeg. Daw Gwilym Dwyfor â blynyddoedd o brofiad o’i gyfnod Y Selar, gan gynnig awgrymiadau arbenigol ar ysgrufennu sy;n taro deuddeg gyda darllenwyr tra’n aros yn driw i waith yr artist.
Erbyn diwedd y gweithdy hwn, bydd cyfranogwyr yn:
- Deall elfennau craidd adolygiad cerddoriaeth da
- Cael mewnwelediad i ddadansoddi a disgrifio genres ac arddulliau cerddoriaeth gwahanol
- datblygu dull strwythuredig o ysgrifennu adolygiadau
- dysgwch sut i ysgrifennu adolygiadau sy’n cyfleu hanfod cerddoriaeth Gymraeg
- Creu adolygiad drafft yn seiliedig ar gân neu albwm Cymraeg ar gyfer adborth
Bydd pob cyfranogwr yn gadael gydag adolygiad cerddoriaeth drafft, ynghyd ag adborth strwythuredig gan Gwilym Dwyfor a’i gyfoedion, yn ogystal â rhestr wirio i lywio ysgrifennu adolygiadau yn y dyfodol