Fel hwylusydd y celfyddydau gweledol, mae fy ngwaith yn aml yn cynnwys cydweithio â chymunedau a sefydliadau i archwilio ac ymateb i dreftadaeth leol yn greadigol. Rhoddodd y comisiwn hwn gyfle unigryw i mi ganolbwyntio ar fy ymarfer personol, gan gymryd ysbrydoliaeth gan wrthrychau sy’n adlewyrchu fy niddordeb mewn hanes cymdeithasol menywod a phrofiad domestig.
Mae’r offer domestig yn amgueddfa Storiel yn cynnig cipolwg ar fywydau menywod lleol o’r gorffennol. Erbyn hyn maent ar wahân i’r amgylchedd yr oeddent yn gweithredu ynddo, ond mae’r gwrthrychau hyn yn tanio chwilfrydedd am fywydau eu perchnogion. ’Rwyf yn cael fy nhynnu at ffurfiau cryf ac arwynebau’r eitemau hyn sy’n dangos ôl traul, ac er eu bod yn gadarn ac yn wydn, maent hefyd yn symbol o ofal a meithrin.
Y ‘radell’ neu’r ‘maen’ (griddle/bakestone) oedd y man cychwyn symbolaidd; mae’r arwyneb noeth yn gweithredu fel cynfas wag, gan ein gwahodd i ychwanegu ein haenau ni ein hunain o ystyr.
Roeddwn i eisiau ail ddychmygu offer domestig sy’n ymddangos yn llai cyffredin fel arteffactau newydd, gan ddefnyddio deunyddiau, prosesau, a chyfeiriadau gweledol a fyddai’n eu cysylltu ag ymdeimlad lleol o amser a lle, a thrwy hyn, â’r menywod a oedd yn eu defnyddio.
Er mwyn creu’r arwynebau addurniadol, cafodd darnau o ddeunydd pecynnu eu hailgylchu, eu lliwio, eu boglynnu a’u cydosod gyda’i gilydd gan ddefnyddio technegau sy’n adlewyrchu gofal a meithrin yn ystod adegau o galedi.
Mae bowlenni’r llwyau’n cynnwys argraffnodau o graffiti wedi’u cerfio i lechi ar y bont yn afon Ogwen, a ddefnyddiwyd gan weithwyr oedd yn teithio i chwareli’r Penrhyn ac adref.
Mae siapiau, patrymau a motiffau cylchol o draddodiadau crefft lleol, fel y gwelir yn y gwaith tecstilau a llechi sy’n cael eu harddangos yn Storiel, hefyd wedi’u hymgorffori. Tynnir lliwiau yn bennaf o’r amgylchedd lleol, yn enwedig y tirweddau chwarela a ffermio.
Mae’r canlyniadau terfynol yn bodoli fel archwiliadau o brofiad byw lleol gyda’i gilydd.