Mae arddangosfa bwysig o waith Jac Jones, yr artist, darlunydd ac awdur yn Storiel yn addo bod yn ysbrydoledig ac yn annisgwyl.  Mae delweddau Jac yn wybyddus i filoedd o deuluoedd ledled Cymru – cymeriad Jac y Jwc a greodd ar gyfer cyfres llyfrau Sali Mali neu weithiau celf ar gyfer llyfrau plant clasurol fel Lleuad yn Olau a⁠ Trysorfa i enwi ond rhai. ⁠Efallai y bydd eraill yn synnu gweld gweithiau artistig Jac ar gloriau recordiau hir a phosteri theatr. Am dros hanner can mlynedd, mae Jac, a aned ar Ynys Môn, wedi ac yn parhau i greu gwaith artistig o’r safon uchaf; boed hynny i lyfrau plant, cloriau recordiau, cynyrchiadau theatr neu raglenni teledu.  Mae ei waith yn gyfarwydd ac eto mae hwn yn gyfle prin i weld ei gelfyddyd yn agos mewn oriel.  Bydd llyfrau braslunio, byrddau stori, cymeriadau cyfarwydd a gweithiau celf llai adnabyddus yn cael eu harddangos.  Gyda’i gilydd, maen nhw’n dangos dawn Jac – gallai droi ei law at unrhyw arddull oedd ei angen i gynhyrchu’r canlyniad gorau – tystiolaeth go iawn o’i greadigrwydd, ei sgil a’i ddychymyg.

Mae wedi gweithio gydag awduron enwog fel Gwyn Thomas, T. Llew Jones, Daniel Morden, Mary Vaughan Jones, Emily Huws yn ogystal â Manon Steffan Ros y mae’n rhannu gwobr Tir Na Nog gyda hi. ⁠ Mae wedi ennill gwobr Tir Na Nog bedair gwaith.  Mae gwaith diweddar gyda Manon Steffan Ros yn cynnwys Pobl Drws Nesaf a⁠ Dafydd a Dad. ⁠Yn ogystal â chydweithio gydag eraill, mae Jac wedi ysgrifennu a darlunio nifer o lyfrau fel Betsan a’r Bwlis a Symud Sam.

Mae gwaith Jac wedi’i gynnwys yn y Premi de Catalonia, cyfeiriadur o ddarlunwyr plant y byd.  Mae hefyd wedi derbyn gwobr Mary Vaughan Jones am ei gyfraniad eithriadol i lyfrau plant yng Nghymru.  Mae ei waith yn parhau i ysbrydoli eraill, gan gynnwys cyd-artistiaid.

 

“Mae Jac Jones yn un o fawrion celf yng Nghymru- Yn wir, mae’n siwr fod ei waith yn fwy adnabyddus i ni fel Cymry Cymraeg nag unrhyw artist arall o Gymru. Mae ei ddylanwad ar dirwedd celfyddydol Cymru yn fawr, ac mae o wedi bod yn ran hollbwysig o gymaint o’n llwyddiannau diwylliannol ni. O Jac y Jwc i gloriau albyms Edward H. Dafis a Meic Stephens; o Lleuad yn Olau i bosteri eiconig Theatr Cymru, mae Jac wedi cyfoethogi ein diwylliant ni mewn gymaint o ffyrdd. Mae ei waith yn parhau i’n denu ni, i’n plesio ni, ac i’n tynnu ni i mewn i brofiadau llenyddol a chelfyddydol sydd wastad yn gyffrous, wastad yn fentrus, wastad yn obeithiol. Heb os, mae’n un o’r artistiaid pwysicaf yng Nghymru, ac rydw i wrth fy modd fod Storiel yn dathlu ei waith.”

Manon Steffan Ros.

____________________________________________

 

“Yn ystod y cyfnod gweddol faith y bum i’n gyfrifol am gomisiynu gwaith gan artistiaid ar gyfer cloriau LP, roedd Jac Jones yn un o’r rhai y trown ato pan oedd angen rhywbeth go arbennig. Roedd clawr yr hen LP wrth gwrs yn cynnig mwy o bosibiliadau i’r dylunwyr na chlawr caset, ac yn wir clawr y CD a ddaeth yn ddiweddarach. Ac roedd Jac yn mwynhau creu cloriau arbennig, a’i gryfder mawr yw ei ddawn i amrywio ei arddull yn ol y galw. 

Roedd wrth ei fodd yn creu portread o wyneb i lenwi’r clawr, ond os edrychwch ar ei bortreadau o Charles Williams, Saunders Lewis a finna, fe welwch fod ei arddull yn bur wahanol yn y tri, ond yr un mor effeithiol ymhob achos. Ond gyda chloriau “Yn erbyn y Ffactorau” (Edward H.) a “Blodwen”, mae ei arddull yn gwbl wahanol eto, ac yn achos “Blodwen”, roedd Jac yn awyddus – am y tro cyntaf dwi’n meddwl – i roi cynnig ar arddull “pointillism” er mwyn cyfleu cyfnod stori’r opera. Cloriau i’w trysori yn wir – ac y mae’n hen bryd i ni’r Cymry i gydnabod gwaith arloesol Jac yn y maes hwn.”

Dafydd Iwan.

 

_____________________________________________

 

“Daw gallu rhyfeddol Jac Jones i’r amlwg yn y modd y mae ei ddarluniau yn cael eu cyfuno â straeon hoffus ein plentyndod. Mae ei arlunwaith nid yn unig wedi cydio yn y dychymyg ond wedi bod yn gefnlen i genhedlaeth o ddarllenwyr Cymraeg.”

Dafydd Owain, Arweinydd Maes: Dylunio, Cyngor Llyfrau Cymru.

 

______________________________________________

 

“I fi, Jac Jones yw arlunydd mwya’ blaenllaw Cymru erioed. Fe wnaeth ddarlunio cymeriad Jac y Jwc am y tro cyntaf, heb sôn am fod yn arlunydd ac awdur cyfoeth o lyfrau eraill i blant. 

Mae’n arwr i fi a phan wnes i gysylltu ag e i ofyn iddo gyfrannu i gylchgrawn Mellten, roeddwn i mor hapus iddo gytuno ac mae wedi bod yn fraint i gyd-weithio gyda a dysgu wrtho fe.”

Huw Aaron, artist.

______________________________________________

Bydd digwyddiad arbennig, Esperarto, ar ddydd Sadwrn 19 Hydref am 2pm.  Yn y digwyddiad bydd Jac Jones a Huw Aaron yn sgwrsio yn Storiel, yn trafod gyrfa ddisglair a diwyd Jac hyd yma.  Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim. Gellir archebu tocyn yma

ESPERARTO(Huw Aaron yn holi Jac Jones ) Tickets, Sat, Oct 19, 2024 at 2:00 PM | Eventbrite