Sgwrs #1 (10.10.24, 14:00)

Archebwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/1020517925587?aff=oddtdtcreator

Fydd y sgwrs yma yn gael ei cynnal mewn cyfrwng y Saesneg

Ar ôl trafod y ffactorau a arweiniodd at ddyfodiad y Northern Welsh FA yn lle cyntaf, bydd y sgwrs hon yn olrhain hanes (fyrhoedlog) y gymdeithas bêl-droed “genedlaethol” amgen a hefyd yn ystyried y rhesymau am ei methiant, cyn gofyn beth oedd gwaddol y corff gorllewinol…os oedd un o gwbl!

Sgwrs #2 (17.10.24, 14:00)

Archebwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/1020527895407?aff=oddtdtcreator

Fydd y sgwrs yma yn gael ei cynnal mewn cyfrwng y Cymraeg

Oedd gweithwyr llechi Fictoraidd ac Edwardaidd gogledd orllewin Cymru yn fwy duwiol a pharchus nag unrhyw garfan gydoesol arall o weithwyr diwyddiannol, mewn gwirionedd? Gan ganolbwyntio ar ddiwylliant chwaraeon Gwynedd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, bydd y sgwrs hon yn dadlau nad yw’r farn hanesyddol draddodiadol ynglyn a chwarelwyr y rhanbarth yn gyfan gwbl gywir ac felly- trwy estyniad-nad oedd goruchafiaeth a dylanwad y capeli mor drwythol a hollgwmpasog â’r hyn sydd wedi cael ei awgrymu’n flaenorol chwaith.

Sgwrs #3 (24.10.24, 14:00)

Archebwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/1020534786017?aff=oddtdtcreator

Fydd y sgwrs yma yn gael ei cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg

Ynghyd â thrafod hanes coll yr un mabolgampwr Cymreig oedd yn dyst i anrhefn gemau 1990, bydd y sgwrs hon hefyd yn edrych ar hynt a helyntion y naw Cymro fuodd yn ymryson am fedelau pan ddychwelodd y carnifal chwaraeon teithiol mawr i lannau’r afon Seine, ychydig o dan chwarter canrif yn ddiweddarach. Ochr yn ochr â’r criw dethol hynny o Gymru “swyddogol”, roedd tîm Prydain ar gyfer gemau olympaidd 1924 hefyd yn cynnwys dau athletwr blaenllaw arall o dras Gymreig ac wrth i’w straeon rhyfeddol hwythau gael eu hadrodd, bydd y cysylltiad lled-ddirgel rhwng Cymru â’r ffilm, “Chariots of Fire”, yn cael ei ddatgelu.