Te Cymreig
Te Cymreig

Yr artist abstract gorau yng Nghymru.
SYR KYFFIN WILLIAMS – EBRILL 2003


Gwelir fod llawer iawn o’r paentio sydd i’w weld yng Ngymru yn dilyn yr un hen fformiwla – cymylau trymion, wynebau creigiog a garw, ambell fwthyn a ffermwr a’i gi. Mae fel awyr iach gweld artist sy’n creu ei hiaith bersonol ei hun. Dangosa’i llwyddiant wrth gyfuno’i gwaith pwytho gyda’r wynebau paentiedig fod Catrin yn talu gwrogaeth i draddodiad gwaith merched tra ar yr un pryd yn torri’n rhydd o’i hualau. Dathliad mewn ffrwydriad o liw ac egni brwdfrydig yw’r gweithiau hyn – maent yn adlewyrchu hunaniaeth a phersonoliaeth Catrin ei hun.
MARY LLOYD JONES – MAI 2007


I’w weithio mae’r tir iddi hi – i’n cartrefu, i’n bywiogi, i gynnig ffordd o fyw, i’w rhannu gan y gymdeithas. Mae delwedd rhamantus y tirlun – y ddelwedd honno sydd wedi ei chofleidio gan genhedlaethau o baentwyr – yn rhywbeth sydd tu hwnt i’w deall.
TAMARA KRIKORIAN – 1999 

 

 

Dechreuais arddangos fy ngweithiau celf ar ddiwedd yr 1980au ac ers hynny mae fy ngwaith wedi teithio ar draws y byd. Fe’m magwyd ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, ond rwyf wedi byw wrth ymyl y môr ym Mhwllheli ers 1996. Cymreictod – neu yn hytrach y profiad o fyw yn Nghymru – yw un o’r themau cryfaf yn fy ngwaith. Mae’r ddresel, y dillad, wynebau ac arferion y teulu i gyd yn aml wedi gweu drwy’i gilydd ac yn mynnu sylw. Mae atsain o’m tirluniau cynnar o fynyddoedd y Berwyn yn amlwg yn fy ngwaith diweddar er fy mod bellach yn darlunio arfordir a thraethau penrhyn Llŷn, iardiau cychod a thref Pwllheli.

 

Rwyf wedi arddangos yn eang ac mae sawl darn o’m gwaith mewn casgliadau preifat ledled y byd – ym mhob rhan o Ynysoedd Prydain, Ffrainc, Yr Almaen, Hwngari, Canada, America, Siapan a China – ac mewn casgliadau cyhoeddus yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, MOMA Cymru Machynlleth, Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinas Casnewydd, Cyngor Sir Gwynedd, ac Oriel Ceredigion Aberystwyth. Rwyf wedi arddangos a chael fy nghynrychioli gan Oriel Martin Tinney Gallery, ac yn ddiweddarach gan Celf Gallery, Caerdydd – trwy hynny arddangoswyd fy ngwaith yng Nghaerdydd, Llundain a China.

 

Rwyf wedi arwain nifer o weithdai ar gyfer plant ac oedolion ac wedi ymgymryd â llawer o brosiectau artist preswyl a safle-benodol. Rwyf wedi ymddangos ar amryw o raglenni teledu a radio yng Nghymru a thu hwnt. Yn Ebrill 2021 roeddwn ar y gyfres boblogaidd ‘Cymry ar Gynfas’, S4C, fel un o’r paentwyr portread, ac yn fwy diweddar ar rhaglen ‘Adre’, S4C.

Catrin Williams

Bydd Catrin yn arwain gweithdy paentio hanner tymor yma.  I gael mwy o wybodaeth ac i archebu

Gweithdy: “Parti Arlunio” gyda Catrin Williams – Storiel (Cymru)

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf hawlfraint Rhodri Jones

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones

07 September - 02 November 2024

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus⁠ Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.  Maen nhw'n ffotograffau teimladwy, llawer o'i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia.  Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy'n archwilio colled a galar.  Mae'r llyfr yn archwiliad o alar sy'n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy'n troi galar yn sgwrs.

Arddangosfa Gelf Te Cymreig

Catrin Williams

05 October 2024 - 04 January 2025

Dechreuais arddangos fy ngweithiau celf ar ddiwedd yr 1980au ac ers hynny mae fy ngwaith wedi teithio ar draws y byd. Fe’m magwyd ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, ond rwyf wedi byw wrth ymyl y môr ym Mhwllheli ers 1996. Cymreictod - neu yn hytrach y profiad o fyw yn Nghymru - yw un o'r themau cryfaf yn fy ngwaith. Mae'r ddresel, y dillad, wynebau ac arferion y teulu i gyd yn aml wedi gweu drwy'i gilydd ac yn mynnu sylw. Mae atsain o'm tirluniau cynnar o fynyddoedd y Berwyn yn amlwg yn fy ngwaith diweddar er fy mod bellach yn darlunio arfordir a thraethau penrhyn Llŷn, iardiau cychod a thref Pwllheli.

Arddangosfa Gelf

Jac Jones

05 October 2024 - 04 January 2025

Mae arddangosfa fawr o waith Jac Jones, artist, darlunydd ac awdur yn Storiel yn addo bod yn ysbrydoledig ac yn syndod. Mae delweddau Jac yn wybyddus i filoedd o deuluoedd ar draws Cymru –y cymeriad Jac y Jwc a greodd ar gyfer cyfres llyfrau Sali Mali neu weithiau celf ar gyfer llyfrau plant clasurol gan T.Llew Jones fel Lleuad yn Olau ac Y Trysorfa i enwi ond rhai. Efallai y bydd eraill yn synnu gweld gweithiau artistig Jac mewn cloriau record a phosteri theatr. Ers dros hanner can mlynedd, mae Jac a anwyd ym Môn, ac yn parhau i greu gwaith artistig o'r safon uchaf; p'un ai ar gyfer llyfrau plant, cloriau record, cynyrchiadau theatr neu raglenni teledu. Mae ei waith yn gyfarwydd ac eto mae hwn yn gyfle prin i weld ei gelfyddyd yn agos mewn oriel. Bydd llyfrau braslunio, byrddau stori, cymeriadau cyfarwydd a gweithiau celf llai adnabyddus. Gyda'i gilydd, maen nhw'n dangos talent Jac - gallai droi ei law at unrhyw arddull oedd ei angen a fyddai'n cynhyrchu'r canlyniad gorau - yn dyst go iawn i'w greadigrwydd, ei sgil a'i ddychymyg. Mae wedi gweithio gydag awduron enwog fel Gwyn Thomas, T. Llew Jones, Daniel Morden, Mary Vaughan Jones, Emily Huws yn ogystal â Manon Steffan Ros (sydd yn rhannu gwobr Tir Na Nog gyda Jac). Mae wedi ennill gwobr Tir Na Nog bedair gwaith. Mae cydweithrediadau diweddar gyda Manon Steffan Ros yn cynnwys Pobl Drws Nesaf a Dafydd a Dad. Yn ogystal â chydweithio ag eraill, mae Jac wedi ysgrifennu a darlunio nifer o lyfrau fel Betsan a'r Bwlis, Symud Sam a Dianc. Mae gwaith Jac wedi'i gynnwys yn y Premi de Catalonia, cyfeiriadur o ddarlunwyr plant y byd. Mae hefyd yn derbyn gwobr Mary Vaughan Jones am ei gyfraniad eithriadol i lyfrau plant yng Nghymru. Mae ei waith yn parhau i ysbrydoli eraill, gan gynnwys cyd-artistiaid. Dywed Huw Aaron; "I mi, Jac Jones yw artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru erioed ,.. Mae'n arwr i mi ... mae wedi bod yn fraint cydweithio ag ef a dysgu ganddo". Bydd yr arddangosfa yn agor ddydd Sadwrn 5 Hydref am 12 hanner dydd, ac mae croeso i bawb. Bydd digwyddiad arbennig, ‘Esperarto’, ar ddydd Sadwrn 19 Hydref am 2pm. Bydd y digwyddiad yn gweld Jac Jones a Huw Aaron yn sgwrsio yn Storiel. Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ond â thocyn. Mae tocynnau ar gael yma.