pedwar delwedd or arddangosfa
pedwar delwedd or arddangosfa

Grŵp Celf Gwynedd a Mon Age Cymru Bontnewydd.

“Rwy’n hynod o falch o allu cyflwyno’r corff anhygoel yma o waith celf a wnaed gan Grŵp Celf Gwynedd a Mon Age Cymru Bontnewydd.

Rydym wedi bodoli ers ychydig dros saith mlynedd bellach, ers i Age Cymru Gwynedd a Mon ail-leoli o Gaernarfon i Bontnewydd.  Rydym wedi mynd o nerth i nerth fel Grŵp Celf, o chwech neu saith aelod i ugain o fynychwyr rheolaidd yn ogystal a rhestr aros.  Rydym yn cyfarfod bob dydd Mawrth, un dosbarth yn y bore ac un yn y prynhawn.  Mae pob aelod wedi ymddeol ac yn dod o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd.

Mae Dydd Mawrth yn bwysig iawn i bob un ohonom ni ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael cyfarfod. Sail y grŵp yw gweithredoedd bach o garedigrwydd, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth ynghyd a llawer iawn o hwyl a chwerthin.

Rydym yn hynod o ffodus o gael amgylchedd saff a chynnes, croeso cynnes, paned a’r opsiwn o bryd cartref bendigedig.

Y dyddiau hyn rydym ni’n fwy ymwybodol nag erioed o deimlo’n unig ac ynysig yn ein cymunedau ac felly rydym ni i gyd yn hynod o ddiolchgar o gael y lleoliad yma yn ardal Caernarfon.

Rydym ni’n breuddwydio am ein prosiect nesaf, rydym ni’n credu ynom ni’n hunain ac edrychwch ar yr hyn rydym ni wedi’i gyflawni.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r Arddangosfa a gellir prynu llawer o’r gwaith am bris rhesymol iawn.”

Marian Sandham, Artist Cymunedol