Dydd Gwener, Gorffennaf 19, 12-2pm
Mae’r artist Christine Mills sydd a gwaith yn y cabinet yn Storiel sy’n ymateb a’r ‘Welsh Not’ ar y safle ac yn hapus i trafod ei gwaith gyda ymwelwyr.
Dydd Gwener, Gorffennaf 19, 12-2pm
Mae’r artist Christine Mills sydd a gwaith yn y cabinet yn Storiel sy’n ymateb a’r ‘Welsh Not’ ar y safle ac yn hapus i trafod ei gwaith gyda ymwelwyr.
Mae BLAS, Pontio yn cyflwyno project arbennig sy’n cofnodi cymuned arbennig Hirael gyda chefnogaeth Storiel. Mae Gwion Aled Williams a’r ffotograffydd Iolo Penri wedi bod yn ymweld â Hirael sawl gwaith dros gyfnod o flwyddyn gan gael cipolwg o’r gymuned a’r unigolion sy’n byw yno. Bydd nawr cyfle i weld ffrwyth y gwaith o gofnodi cymuned Hirael mewn arddangosfa arbennig yn Storiel.
Fel rhan o rhaglen Dathlu Dinas Bangor yn 1500 ymunwch a ni yn Gadeirlan Sant Deiniol Bangor am gyngerdd yng nhwmni Arfon Wyn , Nest Llewelyn ar Ofergoelus (gyda gwesteuon arbennig) wrth iddynt ail greu cyngerdd hanesyddol 1972 yr Atgyfodiad yn y Gadeirlan.
Dechreuais arddangos fy ngweithiau celf ar ddiwedd yr 1980au ac ers hynny mae fy ngwaith wedi teithio ar draws y byd. Fe’m magwyd ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, ond rwyf wedi byw wrth ymyl y môr ym Mhwllheli ers 1996. Cymreictod - neu yn hytrach y profiad o fyw yn Nghymru - yw un o'r themau cryfaf yn fy ngwaith.