Bydd yr Orielau Celf ar gau tan Dydd Sadwrn 29 o Fehefin, 2024. Rydym yn gosod arddangosfeydd newydd.

Yr arddangosfeydd newydd sy’n cael eu gosod ydy:

Susan Gathercole: Dathlu Serameg

Mewn Print: Syr Frank Brangwyn RA (1867 – 1956). Ysgythriadau, lithograffau ac Engrafiadau Pren o Gasgliad Archifau Prifysgol Bangor

Kim Atkinson a Noëlle Griffiths: Gardd Mwsog

Bydd agoriad swyddogol i’r arddangosfeydd am 12 dydd, Dydd Sadwrn Mehefin 29.  Mae croeso i bawb.

Bydd Orielau’r Amgueddfa, yr arddangosfa o Printiadau Cyfoes ac arddangosfa’r cabinet gan Christine Mills yn parhau i fod ar agor.

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf hawlfraint Rhodri Jones

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones

07 September - 02 November 2024

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus⁠ Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.  Maen nhw'n ffotograffau teimladwy, llawer o'i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia.  Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy'n archwilio colled a galar.  Mae'r llyfr yn archwiliad o alar sy'n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy'n troi galar yn sgwrs.