Ymunwch a ni yn Storiel, Amgueddfa Gwynedd am weithdy creadigol gyda’r artist Hannah Coates Shea wrth iddi ymateb i waith arddangosfa KIM ATKINSON AND NOELLE GRIFFITHS, Gardd Mwsog. Bydd Hannah yn dangos technegau i arloesol i greu planhigion lliwgar gan defnyddio nwyddau ailgylchu. Mae’r gweithdy ir ifanc a ifanc ei ysbryd (8 i 80) ag yn hwyl i’r teulu oll. Bydd plant dan 15 angen rhiant i oruwchwylio yn ystod y gweithgaredd

Archebu: https://www.eventbrite.co.uk/…/gweithdy-celf-hannah…

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf hawlfraint Rhodri Jones

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones

07 September - 02 November 2024

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus⁠ Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.  Maen nhw'n ffotograffau teimladwy, llawer o'i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia.  Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy'n archwilio colled a galar.  Mae'r llyfr yn archwiliad o alar sy'n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy'n troi galar yn sgwrs.