Dathlu Serameg
“Yr arddangosfa fechan hon o baentiadau bywyd llonydd yw fy ymateb i rai o’r darnau serameg yng nghasgliad Storiel a Phrifysgol Bangor.
Mae’r gwrthrychau tŷ pob dydd hyn a wnaed gan mlynedd neu ddau gan mlynedd yn ôl yn sôn am fywyd – y bobl a greodd batrymau a dyluniadau bywiog y jygiau, mygiau, platiau a phowlenni hyn, a’r bobl oedd yn berchen arnynt ac yn eu defnyddio.
Roedd fy nhaid yn brif goedwigwr yng Nghastell Penrhyn yn y 1950au ac roedd y teulu yn byw mewn tŷ clwm yn Llandygái. Mae rhai o fy atgofion cynnar yn ymwneud â’r hen ddarnau hyfryd o grochenwaith yr oeddent yn eu defnyddio – mwg eillio crochenwaith caled streipiog glas a gwyn Taid; bwyta bara brith efo menyn o blatiau porslen ‘gorau’ Nain. Dwi’n gallu cofio mwynhau lliwiau’r gwydreddau a siâp y llestri.
Roedd yr eitemau rydw i wedi dewis eu paentio yn fy atgoffa o rai o’r darnau o lestri tsieina o fy mhlentyndod. Rydw i wedi mwynhau astudio eu ffurf a’u haddurniadau yn fawr ac wedi ychwanegu blodau o’r gwrych a’r ardd i gyd-fynd â rhai o’r patrymau trawiadol.
Mae’r lluniau yn y sioe hon wedi eu gwneud gan ddefnyddio gouache (wedi’i ysgythru gan ddefnyddio pwynt miniog clip papur) a phastelau meddal, lliw cryf, o Northumberland, sydd wedi’u rholio â llaw.”
Susan Gathercole RCA 2024
Ynglŷn â Susan Gathercole RCA
Wedi’i geni yn Glasgow yn 1962, graddiodd Susan mewn Celfyddyd Gain o Lerpwl yn 1984.
Treuliodd ran o’i phlentyndod yng Nghonwy, gogledd Cymru, ac mae wedi byw ger Llanberis ers dros 30 mlynedd, gan weithio o stiwdio fechan bren yn edrych dros y coed at odre mynyddoedd Eryri.
Gwahoddwyd Susan i ddod yn aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig yn 2016 ac mae’n disgrifio ei harddull a’i thestun fel “Wonky Still Life”.
“Drwy anogaeth rhieni creadigol, rydw i wedi bod yn arlunio ac yn paentio ers fy mhlentyndod. Wrth dyfu i fyny, roedd llyfrau braslunio hardd fy mam (oedd wedi astudio celfyddyd yn Lerpwl o fy mlaen i) yn ffynhonnell sylfaenol o symbyliad.
Mae fy chwaer, Gill Gathercole, hefyd yn arlunydd, ac yn ysbrydoliaeth fawr i mi. Rhai dylanwadau pwerus eraill yw Mary Fedden, Winfred Nicholson ac Elizabeth Blackadder.”
Jwg Storiel ac Egroes, £695
Blodau Haf Storiel, GWERTHWYD
Jwg Storiel gyda Lilïau ac Aderyn, £695
Bywyd Llonydd gyda Narsisi, £595
Anrheg o Fangor, GWERTHWYD
Jwg Pridd a Blodau'r Dioddefaint, GWERTHWYD
Jwg gyda Handlen Werdd, GWERTHWYD
Jwg Bywiog a Phili Pala, GWERTHWYD
Pabïau a Thebot 'Gaudy Welsh', GWERTHWYD
Gyda Saffrwm a Mantell Dramor, £595
Blodau Gwylltion a Jwg Tsieini, GWERTHWYD
Gyda Blodau'r Gwrych, GWERTHWYD