Cyfres o sgyrsiau am yr arddangosfa ‘Cwsg’, arddangosfa o wrthrychau o gasgliad Storiel sydd yn ymwneud â chwsg.

Bydd sgyrsiau yn cael ei cynnal ar brynhawniau Gwener am 2yp gan Emma Hobbins, Helen Wilcox a Jeremy Yates.

 

10.11.23 – 2yp

Emma Hobbins

Taith a Sgwrs o amgylch yr arddangosfa

 

17.11.23 – 2yp

Helen Wilcox

Cwsg a Breuddwydion mewn Llenyddiaeth

 

24.11.23 – 2yp

Jeremy Yates

Cwsg a Breuddwydion mewn Celf

 

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf hawlfraint Rhodri Jones

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones

07 September - 02 November 2024

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus⁠ Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.  Maen nhw'n ffotograffau teimladwy, llawer o'i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia.  Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy'n archwilio colled a galar.  Mae'r llyfr yn archwiliad o alar sy'n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy'n troi galar yn sgwrs.