💚GWEITHDY CELF LLECHI💚

Ymunwch â ni mewn prosiect cyffrous i greu gwaith celf o hanes cymdeithasol lleol gan weithio â’r arlunydd Rachel Evans i greu cerflun a thecstilau ar gyfer arddangosfa i goffáu ymdrechion Merched Côr y Penrhyn i gefnogi teuluoedd Dyffryn Ogwen yn ystod Streic Fawr y Chwarel 1900-1903. Mae hwn yn gyfle i gymdeithasu gyda phobl eraill sydd â diddordeb mewn celf a hanes lleol, a hynny mewn amgylchedd croesawus a chreadigol. Mae’r sesiynau hyn yn rhai dwyieithog felly byddant yn gyfle da i ymarfer eich sgiliau iaith os ydych chi’n dysgu Cymraeg. Bydd te/coffi/bisgedi ar gael.

Bydd y sesiynau yn defnyddio darnau o’r amgueddfa gwaith llechi a hanes cymdeithasol i ysbrydoli cerfluniau a thecstilau. Mi fydd yna ychydig o waith darlunio cyffredinol, gwaith clai hefo clai sy’n sychu ei hun a bydd ychydig o decstilau hefyd yn rhan ohono

I archebu plis ebostiwch storiel: [email protected]
Pob Dydd Mercher rhwng 15 Tachwedd a 13 Rhagfyr

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf hawlfraint Rhodri Jones

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones

07 September - 02 November 2024

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus⁠ Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.  Maen nhw'n ffotograffau teimladwy, llawer o'i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia.  Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy'n archwilio colled a galar.  Mae'r llyfr yn archwiliad o alar sy'n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy'n troi galar yn sgwrs.