Mae crosio yn siwrnai, nid yn ddiweddnod yn unig. Dewch i fwynhau cynnydd creadigol, dysgu o gamgymeriadau, rhoi cynnig ar edafedd a gweadau newydd, arbrofi gyda bachau, ymgolli wrth gyfrif pwythau a phrofi mwynhad y lliwiau cysurus. Mae’r cyfan yn rhan o broses i’w mwynhau a’i thrysori.
Defnyddio ein dwylo i wneud rhywbeth gyda chariad yw’r therapi gorau! Mae’r sesiwn hon ar gyfer dechreuwyr neu’r rhai sy’n dymuno ail gydio â’r grefft. Bydd yr holl ddeunyddiau, cyfarwyddiadau a phatrymau wedi eu darparu ar gyfer y sesiwn.
Rhaid archebu lle, £25 y tocyn
I archebu ffoniwch 01248 353368