Gweithdy anffurfiol fydd yn rhoi cyfle i bawb – ysgrifenwyr profiadol neu’r rhai sydd yn hollol ddibrofiad. Mae croeso hefyd i siaradwyr newydd, lefel canolradd ac uwch. Y cyfan sydd ei angen yw papur, beiro a’r awydd i chwarae efo geiriau a syniadau.
Mae Sian Northey yn fardd, yn awdur ac yn gyfieithydd llawrydd. Ei chyfrol ddiweddaraf yw Cylchoedd (Gwasg y Bwthyn), cyfrol o straeon byrion ar y cyd efo’r ffotograffydd Iestyn Hughes. Mae newydd orffen cyfnod o 18 mis fel bardd preswyl gyda phrosiect Llwybr Cadfan, dan nawdd Esgobaeth Bangor yr Eglwys yng Nghymru.
Gweithdy trwy gyfrwng y Gymraeg
Tocynnau £10. Ffoniwch 01248 353368 i archebu.
25 Tachwedd 11:00-13:00