Darluniau cyfoes mewn inc, print a phwyth o Fryniau Casia. Casgliad newydd o waith yn dilyn ymweliadau astudio pellach i’r ardal gan gyfeirio at lythyrau gwreiddiol cenhadon dros y blynyddoedd. Rhan o brosiect cyfredol i ddarganfod y cysylltiadau rhwng pobl Cymru a phobl Khasi gogledd-ddwyrain India.
“Mae ‘Drwy Law a Llun’ yn camu i mewn i fywyd y nyrs Beryl Edwards a’r brif weinyddes nyrsio Margaret Owen yn Ysbyty Gordon Roberts Shillong yn y cyfnod 1945 i 1947. Mae eu llythyrau i’w teulu a ffrindiau gartref yng Nghymru yn cofnodi a chreu delweddau byw o’u bywydau a phrofiadau ym mryniau Casia; yr amgylchedd, adeiladau a diwylliant pan roedd presenoldeb a dylanwad y Cymry ar ei anterth. Mae eu geiriau hwy wedi fy ysbrydoli i edrych ar a chyflwyno fy ymweliad a Shillong fel ffordd arall o ohebiaeth, gan ystyried fy narluniau fel cardiau post. Dyddiadur gweledol i gyfathrebu a rhannu’r hyn a welir ac a brofir gydag eraill. Mae bob cerdyn post yn gofnod o amser a lle sydd yn prysur ddiflannu a newid, hanes a thraddodiad yn cael ei ddisodli gan welliant.
Rwyf wedi ceisio cofnodi’r adeiladau hynny a’u hamgylchedd sydd o dan fygythiad a’u rhan yn stori Shillong. Mae nifer o adeiladau hanesyddol eisoes wedi eu colli ac yn diflannu gyda hwy mae rhai o’r delweddau a’r syniad o le a gofnodwyd yn y llythyrau. Fel yn y llythyrau, ffotograffau a darluniau cynnar gan y cenhadon o Gymru, oedd yn cofnodi eu bywydau yn Shillong, mae’r cardiau post yma yn dangos y newid yn y stori fel mae’n pylu a diflannu ym mryniau Casia.
Mae ‘Drwy Law’ yn cyflwyno pobl Khasi drwy’r pethau bob dydd maent yn creu, gan ddefnyddio bambŵ ac adnoddau naturiol y bryniau a’r coedwigoedd o’u hamgylch. Mae’r pethau hyn yn hardd, ymarferol ac wedi eu cynllunio a’u gwneud yn fedrus ac iddynt symbolaeth ac ystyr diwylliannol sydd hefyd yn diflannu. Wrth gymryd y cam i gyflwyno’r stori ‘Drwy Law’ fel ffurf o ohebiaeth, mae cyfeiriad fy llwybr i wedi newid ac nid yn un sy’n llwyr ar sail hanes y Cymry ym mryniau Casia. Hwn yw’r cam nesaf i gyflwyno’r cyswllt rhwng Cymru a bryniau Casia wrth gyflwyno’r stori drwy leisiau Khasi.
Mae’r arddangosfa yn rhoi sylw i’r cyswllt sydd rhwng dwy bobl ers dros ganrif a’r posibiliadau o gydio mewn dyfodol sy’n rhannu diwylliant.”