Pan caiff babi ei eni, y cwestiwn cyntaf a ofynnir yw ‘pa ryw ydi o?’, ac yna ‘faint roedd o’n bwyso?’. Ni ddylai yr un o’r cwestiynau hyn wneud gwir wahaniaeth i fywyd unigolyn yn y dyfodol, ond maent yn gymaint rhan ohonom ein bod prin yn eu cwestiynu. Mae disgwyliadau diwylliannol yn cychwyn ar enedigaeth.
Hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd pob plentyn hyd at chwech oed yn gwisgo dillad gwyn niwtral lle’r oedd modd eu cannu a’u berwi yn hawdd. Roedd bechgyn ifanc yn tyfu eu gwalltiau’n hir ac yn gwisgo ffrogiau – roedd yn amhosib gwahaniaethu rhwng y rhywiau. Dechreuwyd cynhyrchu dillad plant mewn lliwiau pastel o ganol y 19eg ganrif, ond nid oeddent yn cael eu priodoli i rywedd. Ym mis Mehefin 1918, nododd erthygl yn y cyhoeddiad masnachol Americanaidd, Earnshaw’s Infants’ Department: ‘The generally accepted rule is pink for the boys, and blue for the girls. The reason is that pink, being a more decided and stronger color, is more suitable for the boy, while blue, which is more delicate and dainty, is prettier for the girl.’
Derbyniwyd y fersiwn gyfredol o ddillad pinc a glas yn y 1940au. Ers hynny mae wedi bod yn ffasiynol ar adegau ac yn anffasiynol ar adegau eraill. Yn y 1970au, er enghraifft, byddai mamau ffeministaidd yn dilladu eu plant mewn dillad ymarferol, niwtral o ran rhywedd.