Cyfle perffaith am anrheg arbennig i chi, eich teulu neu ffrind. Cewch yma ddewis eang o grefftau cain a bwydydd arbenigol gan artistiaid a chynhyrchwyr lleol. Mae talebau rhodd ar gael hefyd!
Mae STORIEL yn rhan o’r Cynllun Casglu, benthyciad di-log 12 mis sy’n eich galluogi i brynu darnau unigryw o gelf a chrefft cyfoes gan artistiaid byw yng Nghymru, mae’r cynllun ar gael ar bob pryniant rhwng £50 a £5,000. Gofynnwch i’n staff am ragor o fanylion.