Mis ‘Pride’

‘THE LADIES OF LLANGOLLEN’

I ddathlu mis ‘PRIDE’, byddwn yn rhoi hanes bywgraffyddol byr i chi o eiconau LGBTQIA + yng Nghymru a’r cyffiniau. Yr wythnos hon byddwn yn ei chychwyn gyda ‘The Ladies of Llangollen’.

Roedd Eleanor Butler (1739-1829) a Sarah Ponsonby (1755-1831) yn dod o Iwerddon yn wreiddiol ond symudon nhw i Plas Newydd, Llangollen yng Ngogledd Cymru ym 1780 i ddianc rhag pwysau priodas draddodiadol.

Buont yn byw gyda’i gilydd am hanner can mlynedd a hyd yn oed roedd eu llyfrau a’u llestri gwydr wedi’u hysgythru gyda enwau’r ddwy yn ogystal â llofnodi eu llythyrau ar y cyd.

Bu llawer o ddyfalu ynghylch y math o berthynas a gawsant â’i gilydd. Isod mae safbwyntiau rhai haneswyr ac ysgolheigion.

Mae eu perthynas wedi’i chymharu â phriodas Boston, neu berthynas ramantus rhwng dwy fenyw sy’n cyd-fyw ac sydd â chysylltiadau tebyg i briodas. Mae eraill yn credu bod gan y ddwy gyfeillgarwch rhamantus yn hytrach na pherthynas rywiol.

Yn ôl Norena Shopland, mae credoau presennol sy’n gwahaniaethu perthnasoedd un rhyw â chyfeillgarwch rhamantus yn dangos bod ganddyn nhw berthynas rywiol. Yn ôl Fiona Brideoake, mae’r term “queer” yn fwy derbyniol na’r label hynafol a phenodol “lesbiaidd,” yn enwedig oherwydd bod “queerness” yn syniad eang a ddiffinnir gan ei amrywiant o nodweddiadoldeb.

Roedd pobl yn dathlu eu perthynas fel ffordd o alaru’r perthnasoedd nad oeddent yn gallu eu meithrin, yn ôl Brideoake. Yn ôl Coyle, “enwyd nifer o’u cŵn annwyl yn Sappho.”

Yr hyn a wnaeth y menywod hyn mor rhyfeddol yw eu hymroddiad i’w gilydd er gwaethaf mynd yn groes i’r hyn a ystyriwyd yn ‘ddelfryd Fictoraidd’, rhywbeth y mae pobl wedi’i ysbrydoli ganddo ers cenedlaethau.

Mae Butler a Ponsonby wedi’u claddu gyda’i gilydd, ynghyd â’u morwyn selog, Mary Caryll yn Eglwys St. Collen yn Llangollen. Mae Plas Newydd bellach wedi cael ei drawsnewid yn amgueddfa.

Mae’r bag melfed brown a oedd yn eiddo i’r ‘Ladies of Llangollen’ yn rhan o gasgliad Storiel.