Enw: Lynwen Hamer
Swydd: Cymhorthydd Safle Storiel
Prif ddyletswyddau eich rôl yn Storiel
Croesawu ymwelwyr/gwaith derbynfa; Dyletswyddau siop; Glanhau; delio gyda unrhyw faterion bydd yn codi.
Ers pryd ydych chi wedi gweithio yn Storiel?
Mehefin 2018. Roeddwn i ffwrdd ar gyfnod mamolaeth am 9 mis yn 2019, ac dychwelyd yng nghanol cyfnod clo Covid19.
Beth yw’r peth gorau am eich rôl yn Storiel? –
Y tîm gyfeillgar a chefnogol. A’r adeilad, mae ‘na rhyw deimlad neis wrth gerdded mewn drwy drws Storiel, hoff iawn o’r ‘beams’ sydd ar y to yn y derbynfa a’r ffenest yn yr oriel fawr.
Dwi hefyd yn mwynhau croesawu a sgwrsio gyda’r ymwelwyr.
Pe gallech chi gael un archpŵer (superpower), beth fyddai hwnnw?
Yn gyntaf, cael gwared or Covid19 dros y byd. Yn ail, gallu trafeilio i unrhyw le yn y byd wrth cau llygaid a meddwl ble fyswn i hoffi mynd e.e. Traeth tlws ar un or ynysoedd gwlad Groeg.
Beth yw eich hoff eitem yng nghasgliad Storiel a pam?
Anodd dewis. Fydd yr hen esgidiau yn tynnu sylw, anodd coelio fod nhw wedi ffitio ar draed merched, mae nhw mor gul.
Hefyd mae’r lluniau gan plant ifanc or rhyfel Sbaen yn torri fy nghalon i feddwl mai dyna oedd nhw yn weld ar y pryd. Dwi’n siŵr oedd yn amser ofnus i’r plant bach.
Beth yw eich hoff ffordd o ymlacio y tu allan i’r gwaith?
Does dim cyfle ymlacio hefo plentyn ifanc yn anffodus! Hoffwn gerdded ar hyd y traeth yn gwrando ar sŵn y tonnau i glirio’r pen weithiau. Ond treulio rhan fwyaf o fy amser rhydd yn trio diddori’r mab, sydd yn hwyl.