Enw: Corrie Zarach
Swydd: Cynorthwyydd Amgueddfa
Prif ddyletswyddau eich rôl yn Storiel : Cefnogi tîm yr amgueddfa, gan gynnwys , staffio derbynfa, chwilio am stoc newydd i’r siop, marchnata, glanhau a gweinyddiaeth gyffredinol.
Ers pryd ydych chi wedi gweithio yn Storiel? 4 blynedd, dechreuais ychydig cyn Nadolig 2017
Beth yw’r peth gorau am eich rôl yn Storiel / pe gallech chi gael un pŵer, beth fyddai hynny?
Rwyf wrth fy modd yn gweithio mewn adeilad mor anhygoel (mae Storiel wedi’i leoli yn yr hyn a oedd yn balas yr Esgobion, dyma’r ail adeilad hynaf ym Mangor, ac mae’n hynod o brydferth. Mae gweithio ochr yn ochr ag arteffactau hanesyddol a chelf yn cyfle wych. Pe gallwn gael un pŵer? Clonio fy hun er mwyn i mi allu cwblhau’r holl dasgau ar fy rhestrau wythnosol!
Beth yw eich hoff eitem yn Storiel a pham? Rhaid i mi ddweud y llechi cerfiedig, maen nhw mor unigryw ac arbennig, a hefyd yn rhan fawr o’n hanes lleol yng Ngwynedd.
Sut ydych chi’n hoffi ymlacio y tu allan i’r gwaith? Coginio a bwyta bwyd da, gwneud pethau creadigol, nofio yn yr afon a’r môr, gwylio cerddoriaeth fyw a dawnsio