Enw : Nêst Thomas
Swydd : Rheolwr Amgueddfeydd a’r Celfyddydau
Prif ddyletswyddau eich rôl yn Storiel :
Arwain y Gwasanaeth Amgueddfeydd a’r Celfyddydau yn cynnwys Storiel, Amgueddfa Lloyd George, Celfyddydau Cymunedol a Chelfyddydau Gweledol i gyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd
Ers pryd ydych chi wedi gweithio yn Storiel?
Dwi’n gweithio i Gyngor Gwynedd ers 1986 pan nes i gychwyn fel Swyddog Amgueddfeydd tan hyfforddiant. Roeddwn yn gweithio fel Swyddog Amgueddfeydd ac Orielau yn y 1990’au pan benderfynodd y Cyngor i redeg yr amgueddfa ym Mangor sydd bellach yn Storiel.
Beth yw’r peth gorau am eich rôl yn Storiel? –
Cael gweithio efo tîm gwych.
Gwneud yn siŵr bod arteffactau ein cymunedau yn cael eu gofalu amdanynt a’u rannu ar gyfer bobl heddiw ac rhai yn y dyfodol. Rhoi cyfle gwych i artistiaid a chrefftwyr. Hefyd llawer o be da ni yn eu trefnu yn cyfrannu at lesiant, yr economi ac addysg – a heb anghofio cyfle i bobl fwynhau eu hunain.
Beth yw eich hoff eitem yng nghasgliad Storiel a pam?
Y “Welsh Not” sy’n enghraifft brin o rywbeth syml, sef darn o bren efo llythrennau wedi ei gerfio arno, ond sydd yn symbolaidd iawn. Roedd yn cael ei ddefnyddio i geisio atal rhai rhag siarad Cymraeg yn yr ysgolion ac mae enghreifftiau tebyg mewn gwledydd eraill yn y byd fel Llydaw a Hawaii.
Beth yw eich hoff ffordd o ymlacio y tu allan i’r gwaith?
Wrth fy modd yn darllen ffuglen a gwylio hen ffilmiau du a gwyn fel “Rebecca” ( llyfr Daphne du Maurier a’r ffilm gan Hitchcock). Pan mae’n bosib dwi’n hoffi mynd i gigs, treulio amser efo’r teulu a chrwydro’r byd.